Ein cyf/Our ref:

Eich cyf/Your ref:

 

Glan Teifi,

Barley Mow,

Llanbedr Pont Steffan

SA48 7BY

 

E-bost/Email: rhian.jardine@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Ffôn/Phone: 03000 653 638 (PA)

 

 

 

 

 

 

 

Clerc y Pwyllgor

Pwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bae Caerdydd

CF99 1NA

 

Annwyl Syr / Madam

 

Ymchwiliad i Egwyddorion Cyffredinol y Bil Cynllunio (Cymru): Tystiolaeth Corff Adnoddau Naturiol Cymru

 

Dyma ymateb ffurfiol Corff Adnoddau Naturiol Cymru (CNC) i ymchwiliad Pwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd i egwyddorion cyffredinol y Bil Cynllunio (Cymru).

 

Diben Corff Adnoddau Naturiol Cymru (CNC) yw sicrhau bod amgylchedd ac adnoddau naturiol Cymru yn cael eu cynnal, eu gwella a'u defnyddio'n gynaliadwy. Yn y cyd-destun hwn ystyr 'yn gynaliadwy' yw gyda golwg ar wneud lles ac mewn modd sydd wedi ei ddylunio i wneud lles, i bobl, amgylchedd ac economi Cymru yn awr ac yn y dyfodol. Nodir ein swyddogaethau yng Ngorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2012.  Felly, rhoddir ein sylwadau yng nghyd-destun y cylch gorchwyl hwn.

 

Rydym yn croesawu'r cyfle i gyfrannu at yr Ymchwiliad, am ein bod o'r farn bod y Bil Cynllunio (Cymru), ynghyd â Bil yr Amgylchedd a Bil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, yn cynnig cyfle na ddaw ond unwaith mewn cenhedlaeth i wella'r fframwaith statudol ar gyfer rheoli a chynllunio adnoddau amgylcheddol a naturiol yng Nghymru mewn modd integredig yn sylweddol er mwyn ateb yr heriau sy'n wynebu Cymru. Ymhlith yr heriau hyn mae effeithiau newid yn yr hinsawdd, yr angen i ddiogelu ffynonellau ynni a defnyddio ynni'n effeithlon, adnoddau naturiol yn lleihau ac yn dirywio gan gynnwys y dirywiad parhaus mewn bioamrywiaeth, yr angen i greu a chynnal swyddi ac anghyfartalwch o ran y cyfleoedd sydd i bobl Cymru fanteisio ar y buddiannau a rydd yr amgylchedd.

 

Rydym o'r farn bod Bil yr Amgylchedd a Bil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru, yr Adolygiad o Dirweddau Dynodedig a'r Bil Cynllunio (Cymru) yn cyd-fynd â'i gilydd ac yn ategu ei gilydd. Er mwyn sicrhau yr eir i'r afael â'r heriau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd sy'n ein hwynebu mewn modd cydgysylltiedig, mae'n bwysig bod y cysylltiadau hyn yn cael eu cydnabod a'u cyfleu'n glir yng nghyd-destun y broses ehangach o ddiwygio a darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

 

O fewn y fframwaith polisi hwn bwriedir i'r System gynllunio reoli'r modd y caiff tir ei ddatblygu a'i ddefnyddio er budd y cyhoedd ac mae'n ddull pwysig o gyflawni datblygu cynaliadwy a chanlyniadau a rennir mewn cyd-destun gofodol. Yn ogystal â darparu tir ar gyfer gwaith datblygu a seilwaith, mae'r system gynllunio hefyd yn diogelu'r amgylchedd ac yn cynnig cyfleoedd i'w wella. Rydym yn croesawu nod y Bil i ddarparu system gynllunio gadarnhaol sy'n galluogi gwaith datblygu sy'n helpu i ddarparu lleoedd cynaliadwy tra'n diogelu amgylchedd Cymru ac yn cynnig cyfleoedd i'w wella fel sy'n ofynnol. Mae gan CNC rôl allweddol i'w chwarae o ran cefnogi'r cynigion yn y Bil Cynllunio (Cymru) drwy roi tystiolaeth ac arweiniad ac wrth gyflawni ein rôl fel ymgynghorai statudol. Wrth gyflawni rôl ymgynghorai statudol, mae'r Bil yn cynnig y byddwn yn rhoi cyngor statudol drwy gyflwyno ymatebion o sylwedd ar sawl cam yn ystod y broses gwneud cais cynllunio. Bydd hyn yn cynnwys cyngor ar effaith amgylcheddol gwaith datblygu, ac atebion posibl, i roi gwybodaeth i ddatblygwyr a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau er mwyn sicrhau y caiff y datblygiad cywir ei leoli yn y lle cywir a'i gyflawni o fewn paramedrau'r effaith a aseswyd ar gyfer datblygiadau.

 

Mae CNC wedi datblygu cyfres o Amcanion Strategol ar gyfer ein Cyngor Cynllunio, a gymeradwywyd gan ein Bwrdd ar 18 Rhagfyr 2013. Mae'r rhain yn cyd-fynd â'r dull gweithredu cyffredinol a nodir yn y Bil Cynllunio (Cymru). Maent yn pwysleisio bod angen symud tuag at fabwysiadu dull galluogi sy'n seiliedig ar atebion, gan weithio'n strategol a thrwy ymgysylltu'n gynnar â datblygwyr a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau er mwyn galluogi'r datblygiad cywir i gael ei gyflawni yn y lleoliad cywir tra'n parchu terfynau amgylcheddol yn unol â'r dull ecosystem. Atodir copi o'n Hamcanion Strategol yn Atodiad 2 er gwybodaeth.

 

Mae ein hymateb i'r Bil Cynllunio (Cymru) yn pwysleisio pwysigrwydd y canlynol:

 

·      Integreiddio deddfwriaeth, polisïau a chynlluniau;

·      Olrhain caniatadau a thrwyddedau cynllunio a chaniatadau a thrwyddedau amgylcheddol cysylltiedig yn gyfochrog;

·      Integreiddio canlyniadau er mwyn sicrhau bod gwaith datblygu yn esgor ar y manteision mwyaf posibl;

·      Y cyfle i ddatblygu sail dystiolaeth gyffredin er mwyn llywio'r Polisi Adnoddau Naturiol Cenedlaethol, y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol a Chynllun Morol Cenedlaethol Cymru.

·      Ymgysylltu'n strategol â'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol a chynlluniau strategol eraill er mwyn rhoi tystiolaeth a chyngor i gyfeirio gwaith datblygu a seilwaith o bwys cenedlaethol i'r lleoliadau mwyaf addas;

·      Ymgysylltu'n gynnar â'r broses rheoli datblygu - yn ystod cam dewis y safle;

·      Eglurder ynglŷn â rôl arfaethedig ymgyngoreion statudol ac eraill yn y broses gynllunio yn y dyfodol.

 

Nodwn fod y Bil yn nodi nifer o ddarpariaethau sy'n dibynnu ar is-ddeddfwriaeth i'w rhoi ar waith. Er nad yw llawer o'r manylion hyn ar gael ar hyn o bryd, rydym o'r farn y bydd yr is-ddeddfwriaeth hon yn bwysig iawn. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn edrych ymlaen at drafodaeth barhaus ynghylch cwmpas a manylion darpariaethau is-ddeddfwriaeth.

 

Nodwn fod yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol wedi ystyried opsiynau, costau a manteision cynigion ar gyfer Ymgyngoreion Statudol, gan gynnwys pa mor ddymunol yw cynnal ymgynghoriad statudol a'r gofyniad i gyflwyno ymatebion o sylwedd ar gamau ychwanegol o'r Broses gynllunio. Edrychwn ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru i nodi cwmpas llawn y cyfrifoldebau newydd hyn, ein priod rolau, yn arbennig mewn perthynas â'r broses caniatadau gysylltiedig, a'r ffordd orau o ddarparu adnoddau ar eu cyfer er mwyn sicrhau ein bod mor effeithiol â phosibl wrth gyflawni amcanion polisi Llywodraeth Cymru o ran y Bil Cynllunio, Bil yr Amgylchedd a Bil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, a Chynllun Morol Cenedlaethol Cymru sy'n datblygu.

 

Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill i ddatblygu manylion y darn pwysig hwn o ddeddfwriaeth ac is-ddeddfwriaeth, polisi a chanllawiau technegol cysylltiedig ymhellach.

 

Nodir ein hymateb manwl i delerau ymchwiliad y Pwyllgor yn Atodiad 1.

 

Yn olaf, yr wythnos hon gwahoddwyd CNC i ddod i roi tystiolaeth lafar i'r Pwyllgor a bydd yn bleser gennym wneud hynny.

 

Yn gywir

 

 Created by DPE, Copyright IRIS 2005

 

Pennaeth Cymunedau Cynaliadwy

Head of Sustainable Communities

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Atodiad 1

 

Ymchwiliad i Egwyddorion Cyffredinol y Bil Cynllunio (Cymru)

 

Tystiolaeth Corff Adnoddau Naturiol Cymru

 

1. Egwyddorion Cyffredinol y Bil Cynllunio (Cymru) a'r angen am ddeddfwriaeth mewn meysydd penodol.

 

Rydym yn croesawu'r cyfle i gyfrannu at yr Ymchwiliad, am ein bod o'r farn bod y Bil Cynllunio (Cymru), ynghyd â Bil yr Amgylchedd a Bil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, yn cynnig cyfle na ddaw ond unwaith mewn cenhedlaeth i integreiddio'r fframwaith statudol ar gyfer rheoli a chynllunio adnoddau amgylcheddol a naturiol yng Nghymru. Rydym o'r farn bod Bil yr Amgylchedd, Bil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru, yr Adolygiad o Dirweddau Dynodedig a'r Bil Cynllunio (Cymru) yn cyd-fynd â'i gilydd ac yn ategu ei gilydd. Er mwyn sicrhau yr eir i'r afael â'r heriau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd sy'n ein hwynebu mewn modd cydgysylltiedig, mae'n bwysig bod y cysylltiadau a'r cydgysylltiadau hyn yn cael eu cydnabod a'u cyfleu'n glir drwy'r gwahanol Filiau yng nghyd-destun y broses ehangach o ddiwygio a darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

 

Ymhlith yr heriau sy'n ein hwynebu mae mynd i'r afael ag achosion ac effeithiau newid yn yr hinsawdd, yr angen i ddiogelu ffynonellau ynni a defnyddio ynni'n effeithlon, adnoddau naturiol yn lleihau ac yn dirywio gan gynnwys y dirywiad parhaus mewn bioamrywiaeth, yr angen i greu a chynnal swyddi ac anghyfartalwch o ran y cyfleoedd sydd i bobl Cymru fanteisio ar y buddiannau a rydd yr amgylchedd. Mae angen ateb yr heriau hyn yng nghyd-destun y prosesau ehangach sy'n effeithio ar y modd y darperir gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru.

 

Bwriedir i'r System gynllunio reoli'r modd y caiff tir ei ddatblygu a'i ddefnyddio er budd y cyhoedd ac mae'n ddull pwysig o gyflawni datblygu cynaliadwy a chanlyniadau a rennir mewn cyd-destun gofodol. Yn ogystal â darparu tir ar gyfer gwaith datblygu a seilwaith, mae'r system gynllunio hefyd yn diogelu'r amgylchedd ac yn cynnig cyfleoedd i'w wella. Rydym yn croesawu nod y Bil i ddarparu system gynllunio gadarnhaol sy'n galluogi gwaith datblygu sy'n helpu i ddarparu lleoedd cynaliadwy tra'n diogelu amgylchedd Cymru ac yn cynnig cyfleoedd i'w wella fel sy'n ofynnol.

 

Mae CNC wedi datblygu cyfres o Amcanion Strategol ar gyfer ein Cyngor Cynllunio, a gymeradwywyd gan ein Bwrdd ar 18 Rhagfyr 2013. Mae'r rhain yn adlewyrchu'r dull gweithredu cyffredinol a nodir yn y Bil Cynllunio (Cymru). Maent yn pwysleisio bod angen symud tuag at fabwysiadu dull galluogi sy'n seiliedig ar atebion, gan weithio'n strategol a thrwy ymgysylltu'n gynnar â datblygwyr a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau er mwyn galluogi'r datblygiad cywir i gael ei gyflawni yn y lleoliad cywir tra'n parchu terfynau amgylcheddol h.y. mabwysiadu'r dull ecosystem. Atodir copi o'n Hamcanion Strategol yn Atodiad 2 er gwybodaeth.

 

 

 

Y gofyniad i lunio cynllun defnydd tir cenedlaethol, y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol

 

Mae CNC yn croesawu'r cynnig i gyflwyno Fframwaith Datblygu Cenedlaethol (FfDC) yn lle Cynllun Gofodol Cymru. Bydd y FfDC yn seiliedig ar dystiolaeth ac, felly, mae'n cynnig cyfle i gyfeirio gwaith datblygu a seilwaith cenedlaethol-strategol i'r lleoliadau mwyaf priodol yn seiliedig ar dystiolaeth glir, y darperir rhywfaint ohoni yn yr Adroddiad ar Gyflwr Adnoddau Naturiol a, maes o law, y datganiad ar y Polisi Adnoddau Naturiol Cenedlaethol a'r datganiad ar Adnoddau Naturiol Ardaloedd. Yn y cyd-destun hwn bydd yn bwysig bod seilwaith gwyrdd yn cael ei nodi yn y FfDC a'r rôl y mae'n ei chwarae o ran sicrhau manteision lluosog megis rheoli perygl llifogydd a sicrhau manteision iechyd, gan leihau'r costau cymdeithasol ac economaidd sy'n gysylltiedig â llifogydd ac iechyd gwael i'r llywodraeth, busnesau a chymunedau.

 

Bydd integreiddio rhwng y FfDC, y Polisi Adnoddau Naturiol Cenedlaethol a Chynllun Morol Cenedlaethol Cymru yn hanfodol i sicrhau atebion integredig i'r heriau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol sy'n wynebu Cymru yng nghyd-destun y Nodau a nodir ym Mil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

 

Mae cyfle mawr i ddatblygu sail dystiolaeth gyffredin er mwyn llywio'r Polisi Adnoddau Naturiol Cenedlaethol, y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol a Chynllun Morol Cenedlaethol Cymru.

 

Bydd angen i'r CNC wneud y canlynol:

·      diffinio'n glir rôl y system cynllunio defnydd tir o ran cyflawni canlyniadau cenedlaethol y llywodraeth ac unrhyw nodau hirdymor sy'n deillio o Fil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol sydd ar fin cael ei gyhoeddi, Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru a darpariaethau a geir ym Mil yr Amgylchedd yn y dyfodol sy'n ymwneud â Rheoli Adnoddau Naturiol.

·      nodi gweledigaeth hirdymor sy'n canolbwyntio ar gyflawni nodau a chanlyniadau datblygu cynaliadwy er mwyn sicrhau economi ac amgylchedd cadarn.

·      cyfleu'r gydberthynas rhwng haenau gwahanol cynlluniau a phrosesau yn glir

·      cyfleu'r gydberthynas rhwng y FfDC, Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru, Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru, Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd a'i Chynlluniau Ymaddasu Sectoraidd cysylltiedig a Strategaeth Drafnidiaeth Cymru a'r mynegiant gofodol o ddatblygiadau a seilwaith mawr sy'n deillio o Gynlluniau a rhaglenni annatganoledig yn glir e.e. Datganiadau Polisi Cenedlaethol

·      cyfleu'r gydberthynas rhwng y FfDC a chynnig Polisi Adnoddau Naturiol ar gyfer Bil yr Amgylchedd a rhwng y FfDC a Chynllun Morol Cenedlaethol Cymru. Dylai Adran 60B o'r Bil Cynllunio (Cymru) wneud darpariaethau i'r Gweinidogion roi sylw i bolisi adnoddau naturiol a Chynllun Morol Cenedlaethol Cymru, neu eu hystyried, wrth lunio'r FfDC.

·      egluro y bydd y FfDC yn nodi mynegiant gofodol Polisi Adnoddau Naturiol gan gynnwys seilwaith gwyrdd a hamdden strategol a darparu mynediad, amddiffyn rhag llifogydd a mesurau rheoli perygl llifogydd eraill, megis mesurau rheoli dalgylchoedd ucheldirol ynghyd ac amgylcheddau sydd o dan bwysau a dynodiadau sydd o bwys Cenedlaethol a Rhyngwladol.

·      cadarnhau a gaiff Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol eu harwain gan feini prawf neu eu hadlewyrchu'n ofodol yn y FfDC, wedi'u llywio gan Gynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru, Strategaeth Drafnidiaeth Cymru a Pholisi Adnoddau Naturiol.

·      nodi'r gofynion allweddol o ran adnoddau naturiol y bydd angen i brosesau pennu targedau a dyrannu tir ymhellach i lawr yr hierarchaeth gynllunio eu hystyried e.e. argaeledd adnoddau dŵr wrth bennu targedau dyraniadau tai ar gyfer Cynlluniau Datblygu Strategol (CDS) a Chynlluniau Datblygu Lleol (CDLl).

·      cysoni'r cyfnod adolygu â'r un a gynigir ar gyfer y Polisi Adnoddau Naturiol ac Adroddiadau ar Gyflwr Adnoddau Naturiol.

 

Rydym yn nodi ac yn croesawu statws cynllun datblygu'r FfDC a bod y Bil yn ei gwneud yn ofynnol i Arfarniad o Gynaliadwyedd ac Asesiad Amgylcheddol Strategol gael eu cynnal ar ei gyfer. Bydd hyn yn helpu i ddarparu eglurder, sicrwydd a chysondeb drwy'r hierarchaeth gynllunio yng Nghymru ac osgoi gwrthdaro diangen ac oedi sy'n deillio o waith datblygu amhriodol mewn lleoliadau amhriodol. Yn benodol, mae rhai materion amgylcheddol megis perygl llifogydd yn amlygu eu hunain ar raddfeydd gofodol rhanbarthol neu genedlaethol, megis dalgylchoedd afonydd mawr a chelloedd prosesau arfordirol. Dylid ymdrin â'r materion hyn a materion amgylcheddol eraill yn gyntaf ar y lefel cynllunio gofodol genedlaethol er mwyn dylanwadu yn y ffordd fwyaf effeithiol ar benderfyniadau ynghylch datblygiadau strategol a lleol.

 

Bydd angen i fuddsoddiad mewn datblygiadau a seilwaith o'r fath fod yn seiliedig ar dystiolaeth amgylcheddol gadarn er mwyn sicrhau y caiff cynigion eu cyfeirio at leoliadau a all gyflawni canlyniadau bwriadedig ar gyfer yr hirdymor, a'u bod hefyd yn gallu gwrthsefyll heriau presennol a heriau yn y dyfodol megis effaith newid yn yr hinsawdd.

 

Gall y FfDC chwarae rôl bwysig o ran cyflawni targedau Cymru ar gyfer lleihau allyriadau mewn ffordd y bydd penderfyniadau cynllunio lleol anghydgysylltiedig yn methu â'u cyflawni. Bydd yn bwysig sicrhau bod Asesiadau Amgylcheddol Strategol/Arfarniadau o Gynaliadwyedd yn addas at y diben ac yn dangos cynaliadwyedd hirdymor. Yn y cyd-destun hwn, ac o gofio pa mor bwysig yw cyflawni targedau'r EU, y DU a Llywodraeth Cymru ar gyfer lleihau carbon, dylai fod yn ofynnol i'r Fframwaith a'i gynigion ddangos bod allyriadau carbon wedi lleihau o leiaf 3 y cant bob blwyddyn, dros gyfnod y Fframwaith. Mae lleihau allyriadau carbon yn unol â thargedau Llywodraeth Cymru yn gam allweddol tuag at sicrhau cynaliadwyedd hirdymor. Yn yr un modd, dylai proses yr Asesiad Amgylcheddol Strategol ddangos sut mae'r datblygiadau a gynigir yn y FfDC a'u heffaith gyfunol yn lleihau'r effaith ar adnoddau naturiol yn unol, er enghraifft, â thargedau ar gyfer Bioamrywiaeth.

 

Er mwyn darparu Arfarniadau o Gynaliadwyedd/Asesiadau Amgylcheddol Strategol sy'n addas at y diben bydd yn bwysig sicrhau bod yr arbenigedd a'r cymwyseddau angenrheidiol ar gael, yn arbennig os bwriedir iddo ddarparu'r fframwaith sydd ar raddfa fwy na'r ardal leol a chyfrif am holl effeithiau'r Cynllun. Bydd angen cynnal asesiad realistig o'r holl effeithiau ar lefel y FfDC. Ni ddylid diraddio'r asesiadau hyn i Arfarniadau o Gynaliadwyedd/Asesiadau Amgylcheddol Strategol y Cynlluniau  Datblygu Strategol (CDS) a'r Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLl) haen is, fel bod y darlun ehangach a gynigir yn y FfDC yn gweld sut mae'n cyfrannu at effeithiau amgylcheddol, yn ogystal â sicrhau manteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol.

 

Er ein bod yn croesawu'r gofyniad i gynnal Arfarniad o Gynaliadwyedd/Asesiad Amgylcheddol Strategol, rydym yn pryderu nad oes unrhyw gyfeiriad at yr angen i gynnal Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd o'r Cynllun er mwyn sicrhau y cydymffurfir â gofynion Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau (fel y'u diwygiwyd) (Rheoliadau Cynefinoedd) sy'n trosi gofynion Cyfarwyddeb Cynefinoedd y Comisiwn Ewropeaidd (Cyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC ar Warchod cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt) yn gyfraith y DU, ac y rhoddir ystyriaeth lawn i'r gofynion hynny. Felly, dylid ystyried diwygio Adran 60B(1) o'r Bil er mwyn cynnwys y gofyniad i gynnal Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd, naill ai drwy fewnosod y cyfeiriad fel rhan o (c) neu drwy fewnosod maen prawf ychwanegol.

 

Bydd angen ystyried y cynigion ar gyfer craffu ar y FfDC a'i adolygu yn ofalus, ar arbennig os bwriedir cynnwys elfennau gofodol Nodiadau Cyngor Technegol (TANs) sy'n bodoli eisoes, megis TAN 8 a Tan 15, yn y FfDC. Gan y bydd yn ofynnol i Gynlluniau Datblygu Strategol (CDS) a Chynlluniau Datblygu Lleol (CDLl) gydymffurfio â'r FfDC, mae hefyd yn rhoi'r cyd-destun ar gyfer y ddau gynllun hyn ac, felly, mae'n hanfodol bwysig y creffir arno'n briodol cyn iddo gael ei gyhoeddi'n derfynol.

 

Creu Cynlluniau Datblygu Strategol er mwyn ymdrin â materion trawsffiniol sy'n bwysig y tu hwnt i lefel leol.

 

Mae sawl ardal yng Nghymru lle y bydd materion trawsffiniol sy'n bwysig y tu hwnt i lefel leol yn elwa ar fwy o gydweithredu rhwng awdurdodau ac o gael eu hystyried ar y lefel strategol neu ranbarthol. Yn fwyaf nodedig mae'r rhain yn cynnwys dyraniadau tai, yn arbennig ar gyfer De-ddwyrain Cymru a Chaerdydd, a Gogledd-ddwyrain Cymru; dyraniadau mwynau a dyraniadau gwastraff; a seilwaith gwyrdd a glas, wedi'i lywio gan dystiolaeth a datganiadau o ran Adnoddau Naturiol Ardaloedd, i ategu'r gwaith o ddarparu seilwaith llwyd. Felly, ymddengys fod Cynlluniau Datblygu Strategol (CDSau) yn ddull priodol o ystyried materion o'r fath.

 

Fodd bynnag, gan fod awdurdodau lleol mwy o faint yn cael eu hystyried yn sgil yr argymhellion a nodir yn Adroddiad y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus (Adroddiad Williams), rhagwelir, os caiff newidiadau o'r fath eu cyflwyno, y bydd nifer o Gynlluniau Datblygu Lleol yn cwmpasu ardal lawer helaethach ac, felly, y byddant yn dod yn fwy strategol eu natur.

 

Nid yw'n glir o'r Bil beth fydd y gydberthynas rhwng CDSau, Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLlau) awdurdodau lleol mwy o faint a thystiolaeth a datganiadau o ran Adnoddau Naturiol Ardaloedd. Bydd angen diffinio'r gydberthynas hon neu gyfeirio at y darpariaethau ar ei chyfer er mwyn iddi gael ei hegluro mewn is-ddeddfwriaeth.

 

Yn yr un modd, mewn ardaloedd lle na chynigir unrhyw CDSau, bydd angen i'r FfDC ddarparu fframwaith digonol ar gyfer CDLl yr ardal, er mwyn sicrhau y gall y CDLl ddangos y gydymffurfiaeth angenrheidiol â'r FfDC.

 

Fel y nodwyd ar gyfer y FfDC, rydym hefyd yn croesawu'r gofyniad i'r Panel Cynllunio Strategol gynnal Asesiad o Gynaliadwyedd ac Asesiad Amgylcheddol Strategol o'r CDS. Fodd bynnag, fel yn achos y FfDC, rydym yn pryderu nad oes unrhyw gyfeiriad at y gofyniad i gynnal Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd o'r CDS. Rydym o'r farn bod hyn yn hepgoriad yn y Bil ac yn awgrymu y dylid ei gynnwys.

 

Yn yr un modd, nid oes unrhyw ofyniad deddfwriaethol i'r CDS gael ei lywio gan y Polisi Adnoddau Naturiol Cenedlaethol na Datganiadau ar Adnoddau Naturiol Ardaloedd, er i Baragraff 5.26 o'r Ymgynghoriad ynghylch Cynllunio Cadarnhaol nodi y câi CDSau eu llywio ganddo a'r dull o reoli adnoddau naturiol ar sail ardal.  Er mwyn sicrhau bod y Bil a Bil yr Amgylchedd sydd ar ddod yn cael eu hintegreiddio a'u bod yn ategu ei gilydd, rydym yn argymell y dylid diwygio Adran 601 (6) arfaethedig o Ddeddf 1990 y cyfeirir ati yn y Bil drwy ychwanegu cyfeiriad sy'n ei gwneud yn ofynnol i CDSau roi sylw i'r Polisi Adnoddau Naturiol Cenedlaethol a'r dull o Reoli Adnoddau Naturiol ar sail ardal neu eu hystyried.

 

Rydym hefyd o'r farn y dylai'r Pwyllgor bwysleisio pa mor bwysig ydyw bod yn rhaid i'r CDS roi sylw i'r prosesau cydgysylltu a'r amserlenni rhwng y cynlluniau y cyfeiriwyd atynt uchod a'r CDS, yn ogystal â phrosesau cydgysylltu ac amserlenni cynlluniau rhanbarthol Cenedlaethol eraill, gan gynnwys:

 

·      Polisi Adnoddau Naturiol Cenedlaethol

·      Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru

·      Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru

·      Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd

·      Datganiadau Rheoli Adnoddau Naturiol Ardaloedd

·      Y Cynllun Datblygu Lleol

·      Cynlluniau Llesiant

·      Cynlluniau Rheoli Parciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol

·      Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol

 

Dylai'r Pwyllgor hefyd geisio darpariaethau sy'n ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth am y prosesau cydgysylltu gael ei nodi mewn is-ddeddfwriaeth.

 

Rydym yn pwysleisio, yn benodol, fod rhai materion amgylcheddol megis perygl llifogydd, lliniaru newid yn yr hinsawdd ac ymaddasu yn amlygu eu hunain ar raddfeydd gofodol rhanbarthol neu genedlaethol, megis dalgylchoedd afonydd mawr a chelloedd prosesau arfordirol. Dylid ymdrin â'r materion hyn a materion amgylcheddol eraill yn gyntaf ar y lefel cynllunio gofodol genedlaethol, gan integreiddio'r Polisi Adnoddau Naturiol Cenedlaethol, Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru a'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol, er mwyn dylanwadu yn y ffordd fwyaf effeithiol ar benderfyniadau ynghylch datblygiadau strategol a lleol.

 

Newidiadau i Weithdrefnau Cynlluniau Datblygu Lleol

 

Ar y cyfan rydym yn croesawu'r cynigion i fireinio proses y CDLl ac y dylai CDLlau gydymffurfio â'r FfDC a, lle y bo'n berthnasol, CDSau. Fodd bynnag, bydd angen canllawiau ar sut y dylid datrys unrhyw wrthdaro rhwng yr awdurdodau gwahanol, yn enwedig os ydynt yn dal i fod ar y cam archwilio o broses y CDLl.

 

Rydym o'r farn, os oes digon o dystiolaeth o blaid llunio CDLl ar y cyd, y gall fod yn ddull defnyddiol o ddarparu fframwaith lleol/isranbarthol er mwyn datrys gwrthdaro rhwng dyraniadau tir a gallu'r amgylchedd i ddarparu ar gyfer newid mewn perthynas, er enghraifft, â pherygl llifogydd, adnoddau dŵr neu safleoedd Natura 2000.

 

Rhoi mwy o bwyslais ar gamau cychwynnol y broses rheoli datblygu drwy ddarparu ar gyfer gwasanaethau cyn ymgeisio

 

Rydym yn croesawu'r potensial i ddylanwadu ar gynllun a lleoliad ceisiadau yn ystod cam cyn ymgeisio cynnig er mwyn ceisio sicrhau bod effeithiau amgylcheddol yn cael eu lleihau i'r eithaf a bod unrhyw gyfleoedd i wella seilwaith gwyrdd a glas a mynediad i ddarpariaeth mannau gwyrdd yn cael eu hystyried.

 

Fodd bynnag, mae ein profiad o gamau cyn ymgeisio ceisiadau ar gyfer Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (Deddf Cynllunio 2008) wedi dangos y gall fod angen i ymgyngoreion ddefnyddio llawer o adnoddau yn ystod y cam hwn. Yn aml, gall ymgynghoriadau cyn ymgeisio gynnwys adolygu sawl fersiwn o wybodaeth a gyflwynir gan ymgeiswyr cyn i gais gael ei gyflwyno'n derfynol i'r sawl sy'n gwneud y penderfyniad. Felly, mae'n bwysig bod disgwyliadau o ran yr hyn y gall ymgeiswyr ei ddisgwyl gan ymgyngoreion ar y cam hwn, a'r hyn y gall ymgyngoreion ei ddisgwyl gan ymgeiswyr, yn cael eu nodi'n glir o'r dechrau.

 

Er ein bod yn llwyr gydnabod gwerth ymgynghori cyn ymgeisio, ar hyn o bryd, yn aml, mae y tu hwnt i'n rhwymedigaethau statudol presennol a gall ddefnyddio llawer o adnoddau. O ganlyniad, ni allwn ddarparu lefel gyson o wasanaeth cyn ymgeisio ledled Cymru bob amser. Mae CNC yn gweithio i ddatblygu a safoni'r gwasanaeth hwn gan gydnabod y ffactorau hyn. Fel rhan o hyn mae ein Bwrdd wedi gofyn i ni edrych ar yr opsiynau, y manteision a'r costau sy'n gysylltiedig â chyflwyno elfen codi tâl am gyngor anstatudol, gan ddysgu o'r modelau sy'n cael eu defnyddio a'u datblygu gan sefydliadau sy'n cynnig y gwasanaeth hwn eisoes, gan gynnwys y rhai sy'n cael eu mabwysiadu yn Lloegr. Mae CNC wrthi'n ceisio barn ar opsiynau i godi tâl am wasanaethau cynllunio anstatudol fel rhan o ymgynghoriad ynghylch ein cynllun codi tâl ar gyfer 2015-16.

 

Bydd angen ystyried cyflwyno gofyniad statudol, ar y cam cyn ymgeisio ar gyfer Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol a cheisiadau sylweddol, i ymgyngoreion statudol roi ymatebion o sylwedd, fel rhan o'n gwelliannau i wasanaethau a'n hopsiynau ar gyfer codi tâl. Mae angen diffinio elfen statudol ar y cam cyn ymgeisio yn fanwl neu rydym yn awgrymu y gallai fod canlyniadau anfwriadol i ymgyngoreion statudol.

 

Nodwn fod darpariaeth yn cael ei gwneud ar gyfer manylu ar y cynigion mewn is-ddeddfwriaeth, gyda rhagor o fanylion yn cael eu rhoi yn ymgynghoriad presennol Llywodraeth Cymru – Rhoi pwyslais ar brosesau cychwynnol y system rheoli datblygu – sy'n nodi y bydd angen cyngor pwrpasol er mwyn sicrhau y caiff y cynigion a'r safle eu hystyried yn llawn. Bydd CNC yn ymateb i'r ymgynghoriad hwn ym mis Ionawr.

 

Nodwn hefyd y bydd yn ofynnol i ymgyngoreion statudol lunio adroddiad monitro blynyddol sy'n nodi cydymffurfiaeth â'r gofyniad i roi ymatebion o sylwedd fel cyngor cyn ymgeisio, ac o fewn y terfynau amser a nodwyd. Rydym o'r farn bod y dangosyddion a gynigir ar hyn o bryd yn fan cychwyn da ond y gellid eu gwella drwy roi mwy o bwyslais ar ganlyniadau yn ogystal ag allbynnau, er enghraifft drwy gysylltu hyn â'r dangosyddion sy'n deillio o Fil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru). 

 

Cyflwyno categori newydd o ddatblygiad a elwir yn Ddatblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol i'w penderfynu gan Weinidogion Cymru

 

Mae CNC yn cefnogi categori arfaethedig Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (DAC) mewn egwyddor ar gyfer datblygiadau sydd o arwyddocâd ‘Cenedlaethol’. Bydd angen i'r Bil ac is-ddeddfwriaeth egluro'r cysylltiadau rhyngddynt hwy a'r FfDC a'r mynegiant gofodol o ddatblygiad a seilwaith sylweddol sy'n deillio o Ddatganiadau Polisi Cenedlaethol a Chynlluniau a Rhaglenni annatganoledig eraill. At hynny, bydd yn bwysig bod eu trothwyon a'u meini prawf yn cael eu nodi'n glir.

 

Nodwn y ddarpariaeth ar gyfer caniatadau cysylltiedig eilaidd mewn perthynas â cheisiadau penodol, gan gynnwys DAC, yr ymdrinnir â hwy gan y Gweinidogion. Er y gallai hyn gyflymu'r broses o benderfynu ar gynigion drwy ei gwneud hi'n bosibl eu hystyried ar yr un pryd, bydd angen i'r broses o weithredu'r cynnig, a'r goblygiadau o ran adnoddau, gael eu trafod yn ofalus rhwng y Llywodraeth, ymgyngoreion statudol ac awdurdodau cynllunio lleol.

 

Bydd hefyd yn bwysig ystyried goblygiadau cyfrannu at y Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol a phrosesau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol o ran adnoddau i CNC pan gaiff ceisiadau eu cyflwyno ar yr un pryd, fel sy'n debygol o ddigwydd, a'r cydbwysedd sydd i'w sicrhau wrth geisio sicrhau bod digon o adnoddau yn cael eu darparu ar gyfer y ddwy broses. Mae'n bosibl bod hwn yn ganlyniad anfwriadol i'r Bil ac yn faes lle y gallai fod blaenoriaethau croes.

 

Symleiddio'r system Rheoli Datblygu

 

Rydym yn cefnogi egwyddor symleiddio’r system Rheoli Datblygu er mwyn darparu system sy'n rhoi mwy o sicrwydd i bawb sy'n ymwneud â hi, ac sy'n effeithiol, yn effeithlon, yn gymesur ac yn dryloyw. Yn benodol, rydym yn croesawu'r cynnig i ddiweddaru hysbysiadau o benderfyniadau wrth i amodau gael eu cyflawni neu eu hamrywio.

 

Newidiadau i weithdrefnau Gorfodi ac Apelio

 

Ar y cyfan rydym yn cefnogi egwyddor newidiadau i wella'r broses apeliadau cynllunio. Fodd bynnag, unwaith eto cyfeirir at lawer o'r darpariaethau mewn is-ddeddfwriaeth, lle bydd manylion y cynigion yn bwysig.

 

Er ein bod o blaid caniatáu i rai newidiadau gael eu darparu gan ymgeisydd er mwyn gwella cynllun ar ôl i'r apêl gael ei chofrestru, ar y cyfan, gallant beri cryn oedi i'r broses apeliadau, gan ddibynnu ar faint a natur y newid. Felly, rydym yn cefnogi'r egwyddor na ddylid caniatáu i gynllun gael ei newid, fel rheol. Fodd bynnag, rydym o'r farn y dylai fod eithriad i ganiatáu diwygiadau gan ymgeiswyr lle y byddent yn goresgyn gwrthwynebiadau gan ymgyngoreion/3ydd partïon, ac yn osgoi'r angen i gyflwyno cais dilynol, a fyddai'n ychwanegu mwy o gost a gofynion o ran amser ar gyfer pawb sy'n ymwneud â'r broses.

 

Newidiadau mewn perthynas â cheisiadau i gofrestru meysydd trefi a phentrefi

 

Nodwn y newidiadau a gynigir i geisiadau i gofrestru meysydd trefi a phentrefi. Fodd bynnag, mae'n bwysig cydnabod pwysigrwydd y mannau gwyrdd hyn i gymunedau trefol a gwledig, y bydd llawer ohonynt wedi bod yn rhoi mwynhad i gymunedau ers sawl blwyddyn ac yn cael eu cysylltu â manteision iechyd a lles cydnabyddedig.

 

2. Unrhyw rwystrau posibl i weithredu'r darpariaethau hyn ac a yw'r Bil yn eu hystyried

 

Bydd eglurder yr integreiddio a'r gydberthynas rhwng cynigion deddfwriaethol a chynigion polisi parhaus eraill, megis Bil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, Bil yr Amgylchedd, yr Adolygiad o Dirweddau Dynodedig a Chynllun Morol Cenedlaethol Cymru, yn hanfodol i weithredu'r Bil.

 

Mae angen ystyried y goblygiadau o ran adnoddau yn ofalus yng nghyd-destun yr adolygiad presennol o Gyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus, yn arbennig lle mae'n ofynnol i gyrff roi cyngor i helpu Gweinidogion Cymru neu'r corff a benodir ganddynt benderfynu ar geisiadau. Mae angen trafod hyn yn genedlaethol rhwng Llywodraeth Cymru, ymgyngoreion statudol a Llywodraeth Leol, ac ystyried atebion ar Raddfa Genedlaethol neu Ranbarthol er mwyn helpu i sicrhau gwasanaeth cynllunio cadarn yn lleol.

 

Bydd cyrff a fyddai'n penderfynu ar ganiatadau eilaidd cysylltiedig fel arfer, ond y bydd yn ofynnol iddynt neilltuo adnoddau staff i helpu i'w hystyried o hyd, yn colli ffioedd.

 

Mae ein profiad o Brosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol yn dangos y gall fod angen cryn dipyn o adnoddau i asesu cais fel y'i cyflwynwyd a sicrhau bod y prosiect wedi datblygu mewn ffordd ailadroddol, gan roi sylw i  gyngor ac unrhyw bryderon a ddarparwyd ar y cam cyn ymgeisio. Er y gall amser gael ei arbed ar y cam gwneud cais, yn ein profiad ni mae'n debygol y bydd angen neilltuo cryn dipyn o adnoddau o hyd ar y cam hwnnw heb elwa, o reidrwydd, ar yr arbedion a nodir yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol. Bydd angen rheoli hyn yn ofalus.

 

3. Faint o sylw y mae'r Bil Diwygiedig yn ei roi i'r argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor ar ôl craffu ar y Bil Cynllunio Drafft (Cymru)

 

Dim sylw.

 

4. Unrhyw Ganlyniadau anfwriadol sy'n deillio o'r Bil?

 

Gweler y sylwadau uchod ynghylch goblygiadau codi tâl am gyngor cyn ymgeisio anstatudol, a chyfraniad ymgyngoreion at y cynigion ar gyfer Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol a'r cydbwysedd cymharol y dylid ei roi i hynny pan fydd angen cyfrannu at Brosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol ar yr un pryd.

 

5. Goblygiadau ariannol y Bil, fel y'u nodir yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol

 

Er ein bod yn croesawu cyfleoedd i gyflymu'r broses gynllunio ac yn cydnabod y gallai caniatadau cysylltiedig eilaidd gyflymu'r broses o benderfynu ar gynigion drwy ei gwneud hi'n bosibl eu hystyried ar yr un pryd, mae angen i'r broses o weithredu'r cynnig, a'r goblygiadau o ran adnoddau, gael eu trafod yn ofalus rhwng y Llywodraeth, ymgyngoreion statudol ac awdurdodau cynllunio lleol.

 

Bydd angen ystyried y goblygiadau o ran adnoddau yn ofalus yng nghyd-destun yr adolygiad presennol o Gyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus, yn arbennig lle mae'n ofynnol i gyrff roi cyngor i helpu Gweinidogion Cymru neu'r corff a benodir ganddynt benderfynu ar geisiadau.

 

At hynny, bydd cyrff a fyddai'n penderfynu ar ganiatâd eilaidd cysylltiedig fel arfer yn colli ffioedd. Bydd yn ofynnol i'r cyrff hyn neilltuo adnoddau staff o hyd er mwyn helpu Gweinidogion Cymru neu'r corff a benodir ganddynt i'w hystyried, ond ni fyddant yn cael yr incwm o ffioedd i gyfrannu at gostau'r gwaith a fu ynghlwm wrth hynny.

 

Dylai'r materion hyn fod yn rhan o drafodaeth genedlaethol rhwng Llywodraeth Cymru, ymgyngoreion statudol a Llywodraeth Leol, a dylid ystyried atebion ar Raddfa Genedlaethol a Rhanbarthol er mwyn sicrhau gwasanaeth cynllunio cadarn.

 

6. Priodoldeb y pwerau i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth

 

Rydym yn cytuno â'r egwyddor y dylai fod gan Weinidogion Cymru y pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth, ar yr amod y caiff deddfwriaeth o'r fath ei datblygu a'i llywio gan y canlynol:

 

·      sail dystiolaeth glir

·      ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol a grwpiau â diddordeb – gan gynnwys ymgyngoreion statudol

·      proses dryloyw.

 

7. Mesuradwyedd canlyniadau o'r Bil

 

Mae Bil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, yr Adroddiad ar Gyflwr Adnoddau Naturiol a symud tuag at sail dystiolaeth gyffredin ar gyfer Polisi Adnoddau Naturiol, Datganiadau ar Adnoddau Naturiol Ardaloedd, Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru, Fframwaith Datblygu Cenedlaethol, CDS/CDLl, Cynlluniau Llesiant a Chynlluniau Rheoli Parciau Cenedlaethol ac AHNEoedd, a'r Bil Cynllunio (Cymru) oll yn cynnig cyfle i ddarparu fframwaith integredig er mwyn ateb heriau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd. Dylid ystyried bod fframwaith o'r fath yn un cydategol a chydgefnogol a dylai sicrhau dull cysylltiedig o wneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar sail dystiolaeth amgylcheddol gadarn ac sy'n sicrhau'r manteision posibl mwyaf i fuddiannau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd.

 

 

 

 

 

 


Atodiad 2

 

Amcanion strategol CNC ar gyfer ymgysylltu â'r system gynllunio

 

Ym mis Rhagfyr 2013 mabwysiadodd y Bwrdd ein cynnig ar gyfer dull gweithredu newydd, sy'n rhoi mwy o bwyslais ar weithio ar y lefel strategol a mabwysiadu diwylliant seiliedig ar atebion. Mae'r amcanion strategol a argymhellir fel a ganlyn:

 

(i) Egwyddorion

 

Byddwn yn:

·      Ymgysylltu'n rhagweithiol â'r system gynllunio - mae hwn yn ddull pwysig o sicrhau datblygu cynaliadwy, rheoli adnoddau naturiol a chyflawni canlyniadau cadarnhaol i dreftadaeth naturiol Cymru

 

·      Ymgysylltu'n rhagweithiol â mentrau adfywio a datblygu economaidd - er mwyn sicrhau bod mentrau yn ystyried cyfyngiadau amgylcheddol a gweithgarwch rheoli adnoddau naturiol a bod datblygiadau canlyniadol yn gynaliadwy

 

·      Canolbwyntio ein hymdrechion ar roi tystiolaeth a chyngor ar gynlluniau strategol a gofodol – er mwyn cyfeirio gwaith datblygu i leoliadau priodol a sicrhau bod cyn lleied o wrthdaro â phosibl yn y dyfodol ar lefel y cais unigol

 

·      Defnyddio'r un sail dystiolaeth ar gyfer adnoddau naturiol ym mhob rhan o CNC - er mwyn sicrhau bod cyngor yn gyson

 

·      Annog ymgysylltu'n gynnar â datblygwyr - er mwyn dylanwadu a nodi unrhyw broblemau ac atebion creadigol yn gynnar

 

·      Sicrhau bod ein cyngor statudol yn farn resymegol a luniwyd ar ôl rhoi ystyriaeth briodol i fater, gan bwyso a mesur ein hystod lawn o ddibenion, dyletswyddau a chanllawiau perthnasol - er mwyn sicrhau ein bod yn cydymffurfio â'n dyletswyddau cyfreithiol. Mae'n rhaid cydymffurfio â dyletswyddau penodol, lle y maent yn gymwys

 

·      Rhoi cyngor amgylcheddol gwrthrychol ac arbenigol, yn seiliedig ar wybodaeth dda sy'n seiliedig ar leoedd - er mwyn helpu'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau i gyflawni eu dyletswyddau. Rydym yn cydnabod, wrth gydbwyso eu dyletswyddau, y gall y rhai sy'n gwneud penderfyniadau ddod i gasgliad gwahanol i CNC ynghylch pa mor dderbyniol yw unrhyw risg weddilliol neu effaith sy'n gysylltiedig â datblygiad penodol.

 

(ii) Ffyrdd o weithio

 

Byddwn yn:

·      Sicrhau bod ein hymatebion mor glir, diamwys a chyson â phosibl

 

·      Sicrhau bod ein prosesau mewnol wrth roi cyngor cynllunio statudol yn cael eu llunio a'u rhoi ar waith i atal gwrthdaro buddiannau (er enghraifft os mai ni yw'r ymgeisydd neu'r tirfeddiannwr yn ogystal â'r ymgynghorai statudol)

 

·      Sicrhau bod penderfyniadau yn dryloyw drwy allu esbonio'r rhesymeg dros ein cyngor a thrwy gyhoeddi dogfennau penderfyniadau mewn achosion cynhennus

 

·      Mabwysiadu dull cadarnhaol o weithredu. Mae hyn yn golygu ceisio dod o hyd i'r ateb cywir i'r amgylchedd a'r datblygwr Mae'n golygu osgoi gwrthwynebu os gallwn wneud hynny. Fodd bynnag, os na ellir dod o hyd i'r ateb cywir i'r amgylchedd, naill ai am fod yr ymgeisydd yn amharod i addasu cynigion neu am na all wneud hynny, neu am fod y datblygiad wedi'i leoli yn y lle anghywir, efallai y bydd angen i ni ei wrthwynebu. Os bydd yr effaith yn codi materion o bwys cenedlaethol, byddai angen i ni wrthwynebu'r datblygiad.

 

·      Defnyddio dull seiliedig ar risg yn ein gwaith adweithiol, gan ymateb i geisiadau unigol. Mae hyn yn golygu cyfeirio ein hadnoddau at ddatblygiadau sy'n debygol o gael effeithiau sylweddol ac sy'n effeithio ar safleoedd/ardaloedd pwysig a sensitif

 

·      Defnyddio cyngor sefydlog lle y bo'n briodol am fod iddo werth wrth ymateb i geisiadau llai cymhleth ac y gall leihau llwythi gwaith; fodd bynnag, nid yw hyn yn disodli'r angen am gyngor sy'n seiliedig ar leoedd a chyngor pwrpasol, yn arbennig mewn achosion mwy cymhleth

 

·      Codi tâl am gyngor anstatudol (e.e. cyn ymgeisio) - lle y gallwn ddangos y bydd hyn yn gwella'r gwasanaeth a ddarperir i gwsmeriaid ac yn sicrhau gwell canlyniadau amgylcheddol

 

·      Gweithio mewn partneriaeth ag ACLlau a PINS - er mwyn cyflawni canlyniadau ar y cyd, darparu mentrau hyfforddi a rheoli'r ymgynghoriadau a anfonir i CNC

 

·      Gweithio gyda datblygwyr a'u grwpiau sector er mwyn egluro rôl CNC (sef rhoi cyngor nid gwneud penderfyniadau); nodi anghenion ac atebion cyffredin o ran tystiolaeth

 

·      Gweithio gydag ymgyngoreion statudol eraill megis Cadw er mwyn egluro ein priod rolau o ran cynllunio a rhannu tystiolaeth

 

(iii) Canlyniadau:

 

·      Mae datblygwyr yn ceisio ac yn derbyn ein cyngor yn gynnar fel y dylanwedir ar leoliad a chynllun datblygiadau newydd, gan hyrwyddo gwaith datblygu sy'n osgoi effeithiau negyddol, sydd o fewn terfynau amgylcheddol ac sy'n gynaliadwy

 

·      Mae'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn ystyried adnoddau naturiol o ganlyniad i'n cyngor clir sydd wedi'i dargedu'n dda, gan warchod yr adnoddau hyn a sicrhau datblygu cynaliadwy

 

·      Mae cyfleoedd i wella'r amgylchedd yn cael eu nodi a'u darparu drwy'r system gynllunio

 

·      Cydberthnasau gwell a lefelau uwch o foddhad ymhlith cwsmeriaid oherwydd ansawdd ac eglurder ein hymatebion ac am ein bod yn darparu'r wybodaeth gywir ar yr adeg gywir

 

·      Deëllir rôl CNC yn y system gynllunio gan ein cwsmeriaid a'n rhanddeiliaid

 

·      Cydymffurfiaeth well â therfynau amser ar gyfer ymateb